Bethshan

Elusen annibynnol yw Bethshan, a’i unig fwriad yw rhedeg Cartref Nyrsio Bethshan. Agorwyd y Cartref yn 2001 yn ganlyniad gweledigaeth a brwdfrydedd Eglwys Gobaith Y Drenewydd, oedd wedi ymateb i’r her o ddarparu unig Gartref Nyrsio'r Drenewydd. Y freuddwyd oedd cynnig cartref lle byddai pobl fregus mewn oed yn derbyn gofal gyda chariad, urddas a rhagoriaeth mewn amgylchfyd a seilir ar egwyddorion Cristnogol, ond oedd ar agor i bawb er gwaethaf ffydd bersonol.

DARLLENWCH MWY

Reception

Bethshan

SYLWADAU POBL AMDANOM

Sylwadau pobl amdanom 

“Mae’r gŵr yn byw yno, ac roedd y gofal cyfeillgar a sympathetig mae’n ei dderbyn wedi gwneud argraff fawr arnaf i a’r teulu. Mae’r cartref wastad yn lân iawn, ac ar wahân i’r oglau bwyd hyfryd, does dim aroglau eraill o gwbl, Diolch o galon ichi oll!”

SYLWADAU POBL AMDANOM

Sylwadau pobl amdanom 

“Rwyf wedi taro heibio Bethshan ar amseroedd amrywiol yn ystod y dydd, ac mae’r gofal yn rhagorol. Mae’r staff yn ofalgar, yn bryderus, yn agored ac yn hawdd siarad â nhw. Mae ganddynt amser i egluro a’n diweddaru bob adeg.”

SYLWADAU POBL AMDANOM

Sylwadau pobl amdanom 

“Rwyf wedi cyrraedd pan fydd fy nhad yn cael ei fwyd, ac mae’r staff yn amyneddgar, yn siarad ag ef ac yn ei drin fel bod dynol. Does gen i ddim pryderon, ac mae safon y gofal yn uwch na’r hyn roeddwn yn ei ddisgwyl.”

SYLWADAU POBL AMDANOM

Sylwadau pobl amdanom 

“Mae’r gofal a ddarperir o safon uchel bob tro, ac maent wastad yn parchu preifatrwydd ac urddas (fy nhad). Mae’n cael dewis dros ei hun, ac yn mwynhau gwneud ei benderfyniadau ei hun lle bo’n bosib.” 

Croeso i Bethshan

Dewiswyd yr enw "Bethshan" oherwydd ei ystyr, sef "Cartref Diogel" a’r nod oedd i bob preswylydd deimlo’r heddwch a’r diogelwch fyddai’n fendith iddo/iddo a’u teuluoedd. Fel elusen, mae Bethshan yn atebol i fwrdd ymddiriedolwyr sy’n golygu ein bod yn hynod ymatebol i anghenion lleol - does dim sefydliad mawr corfforaethol yn dweud beth ddylai digwydd, a dim gorbenion mawr ar gyfer prif swyddfa.  Elusen ddielw ydym - mae unrhyw warged yn cael ei wario ar y Cartref ei hun.

Unigolion gwirfoddol yw’r ymddiriedolwyr, ac maent wedi llwyr ymroi i sicrhau fod Bethshan yn lle gwych i fyw ynddo, ac yn weithle heb ei ail. Yn ôl Eglwys Gobaith, Bethshan yw’r "gwyrth ar y bryn", a phleser a braint yw gallu chwarae rhan wrth ddiwallu anghenion henoed Canolbarth Cymru.

Nid peth hawdd yw penderfynu symud aelod o’ch teulu i Gartref Nyrsio, a byddwn wastad yn hapus ichi ymweld â ni, i edrych o gwmpas a thrafod yr opsiynau. Gweler isod rhai dolenni at wybodaeth fydd o gymorth ichi efallai.

- Dewis Gofal ar gyfer Oedolion

 

CYSYLLYU Â NI

Top